Monthly Archives: F Y

Drannoeth y drin!

Dwi wrthi’n fframio’n tystysgrif Enwebiad Gwobrau Rhaglenni y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Horrible Histories gyda’i sgriptio gwych, ei actio penigamp a’i ddull arbennig o gyflwyno hanes i blant aeth a hi. Hefyd yn yr un categori ag Y Diwrnod Mawr, fe enwebwyd y ffefryn meithrin Mr Tumble a’r rhaglen Something Special. Roedd clywed llais ein harwr bach o Bentrefoelas yn deud “Fi di Sion a hwn ‘di diwrnod mawr fi. Dwi’n mynd i werthu John Parry” yng nghanol mor o Saesneg yn brofiad gwefreiddiol!

Mae gwobrau’r RTS yn ddigwyddiad o bwys yn y diwydiant teledu. Dwi’n browd iawn o’r rhaglen yma a’i chyrhaeddiad. Mae bob plentyn (26 yn y gyfres gynta) yn arbennig ac mi fu’n fraint gweithio efo nhw.

Rydyn ni wrthi’n golygu rhaglenni cynta’ Cyfres Dau rwan – ac mae rhain yn wych hefyd.

Mynd o seremoni i seremoni ar hyn o bryd – mi fyddaf yn mynd i’r Wyl Gyfryngau Geltaidd yn Stornoway fis nesa’. Mae’r rhaglen wedi derbyn ei phedwerydd enwebiad yn fanno. Mi fydd yn dipyn o daith – well imi feddwl am ddechre trefnu!

Mawrth 17, 2011

Awards, News

Llundain yn galw!

Dwn i ddim am balmant aur ond mae Gwobrau’r RTS yn uchel iawn eu parch yn y diwydiant.

Mae Y Diwrnod Mawr yn un o’r dair rhaglen sydd ar restr fer y categori Rhaglen Blant Orau yn y seremoni heno. Byddaf ar fy ffordd amser cinio.

Yn cystadlu gyda ni am y wobr mae Something Special – rhaglen wych CBeebies a’r anhygoel Horrible Histories. Cwmni gwych mewn categori os bu erioed.

Diolch o galon i blant YDM i gyd ac wrth gwrs i’r teuluoedd hefyd!

Mawrth 15, 2011

Awards