Enwebiad arall!
Mae’r Diwrnod Mawr wedi cyrraedd y brig eto! Heno fe gyhoeddwyd fod y rhaglen wedi ei henwebu yng nghategori Rhaglenni Plant Bafta Cymru! Ac unwaith eto, mae’r ddwy raglen sydd yn yr un categori a ni yn rhai gwych. Mae hynny’n destun balchder mawr…
Ar hyn o bryd dwi’n golygu Cyfres Dau Y Diwrnod Mawr – fydd yn dechrau ar Cyw ddydd Llun y Pasg. Yn yr wythnosau cychwynnol bydd cyfle i ddod i nabod Eben, Elan, Marek, Sara Mai a Dylan. Ac yna bydd ugain o blant eraill yn dweud eu stori eu hun!
Mae gwneud y rhaglenni yn bleser pur – diolch i’r plant i gyd a’u teuluoedd.
Bydd Marcaroni – ein cyfres newydd arall hefyd yn dechrau ar Cyw dros y Pasg. Mwy am hyn y tro nesaf.
Llundain yn galw!
Dwn i ddim am balmant aur ond mae Gwobrau’r RTS yn uchel iawn eu parch yn y diwydiant.
Mae Y Diwrnod Mawr yn un o’r dair rhaglen sydd ar restr fer y categori Rhaglen Blant Orau yn y seremoni heno. Byddaf ar fy ffordd amser cinio.
Yn cystadlu gyda ni am y wobr mae Something Special – rhaglen wych CBeebies a’r anhygoel Horrible Histories. Cwmni gwych mewn categori os bu erioed.
Diolch o galon i blant YDM i gyd ac wrth gwrs i’r teuluoedd hefyd!
BAFTA
Waw!!! Yn y busnes dan ni i gyd yn ymgyrraed at BAFTA – cydnabyddiaet y diwydiant.
Mae derbyn enwebiad am Bafta Plant y DU yn ein gosod mewn cystadleuaeth a Cbeebies – mewn seremoni ddisglair yn yr Hilton Park Lane. Mae clywed Sion Pyrs yn son am werthu’i ddafad John Parry yn y fath le yn hynod o gyffrous!
Rose d’Or
Mae cynhyrchiad Ceidiog Y Diwrnod Mawr yn gwireddu breuddwyd i mi!!! dwi wedi bod isio gwneud rhaglenni dogfen go iawn i blant bach ers tro.
Mae Rose d’Or yn wobr ryngwladol – mae derbyn enwebiad yn ein rhoi ni ymhlith y goreuon! Dwi”n falch iawn o hynny…ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhaglen.
Diolch o galon i’r tim yn Ceidiog – ac hefyd i bob un o’r plant a’u teuluoedd – mae’n fraint cael treulio amser yn eich cwmni.!