Mae’r Diwrnod Mawr wedi cyrraedd y brig eto! Heno fe gyhoeddwyd fod y rhaglen wedi ei henwebu yng nghategori Rhaglenni Plant Bafta Cymru! Ac unwaith eto, mae’r ddwy raglen sydd yn yr un categori a ni yn rhai gwych. Mae hynny’n destun balchder mawr…
Ar hyn o bryd dwi’n golygu Cyfres Dau Y Diwrnod Mawr – fydd yn dechrau ar Cyw ddydd Llun y Pasg. Yn yr wythnosau cychwynnol bydd cyfle i ddod i nabod Eben, Elan, Marek, Sara Mai a Dylan. Ac yna bydd ugain o blant eraill yn dweud eu stori eu hun!
Mae gwneud y rhaglenni yn bleser pur – diolch i’r plant i gyd a’u teuluoedd.
Bydd Marcaroni – ein cyfres newydd arall hefyd yn dechrau ar Cyw dros y Pasg. Mwy am hyn y tro nesaf.