Ein Gwaith

Y Diwrnod Mawr

Y Diwrnod Mawr

Mae plant bach wrth eu bodd yn clywed stori – ac mae’r ddawn i ddweud y stori yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy apelgar!

Mae Y Diwrnod Mawr yn dweud stori 26 o blant ifanc wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer diwrnod mawr yn eu bywydau. Weithiau mae’n ddigwyddiad teuluol – weithiau mae’n benllanw gweithgaredd neu hobi arbennig.

In ystod y gyfres rydyn ni’n rhannu digwyddiadau emosiynnol – mam Cerian yn dod adre o Afghanistan, a geni chwiorydd bach Jac.

Rydyn ni’n cael rhannu hapusrwydd Charlie wrth iddo basio ei brawf gyrru gokart ac mae na hwyl i gael wrth i Sion werthu’i ddafad – John Parry – ym marchnad Rhuthun.

Mae’r plant n dod o gefndiroedd amrywiol iawn o berfeddion cefn gwlad i ganol y ddinas. Nhw sydd yn dweud eu stori yn eu geiriau eu hunain.

Cyfuno techneg rhaglen ddogfen a dawn dweud storis wrth blant meithrin wnaeth Nia Ceidiog wrth greu, cynhyrchu a chyfarwyddo’r gyfres hon.

Plant bach, cerddoriaeth wych a graffeg lliwgar – cyfuniad perffaith ar gyfer plant meithrin!

Gorsaf Hud

Gorsaf Hud

Cyfres arbennig iawn sydd yn rhoi cyfle i blant bach greu – gan ddefnyddio’u dychymyg!

Pan bydd pump o blant bach yn cael mynd ar y tren hud i Orsaf Llanlledrith, maen nhw’n trawsnewid yn Ddychmygwyr.

Yn y rhaglenni (sydd i’w gweld ar Cyw) mae’r plant yn cael eu croesawu i’r orsaf gan Dolores (gewch chi ngalw i’n Doli) Jones – yr orsaf-feistres. Yn helpu Dolores a’r plant i ddychmygu mae Dafs a Del y porthoriaid.

Hwyl a sbri – mewn lle hudolus a hwyliog dros ben – lle mae dychymyg plant bach yn cael rhedeg reiat!

Meees

Meees

Yn hapus ‘da’n gilydd, y Meees ydyn ni!

Teulu o ddefaid o dras cymysg ydi’r Meees. Ond nid defaid cyffredin mo rhain – maen nhw’n canu ac yn dawnsio ac yn gwneud inni chwerthin.

Comedi sefyllfa gydag asgwrn cefn cryf o themai cymdeithasol addysgiadol ydi’r gyfres hon gyda ‘r storiau yn cael eu dweud o safbwynt y plant.

Mae Tadcu yn hwrdd sydd yn wreiddiol o Wlad Groeg ac a sefydlodd y teulu gyda’i wraig Baaalwen – dafad fynydd gymreig a gyfarfu pan oedd y ddau yn aelodau o gorws La Scaaala ym Milaaan flynyddoedd yn ol!

Cerddoriaeth, ailgylchu a theulu ydi prif themau y rhaglenni. Mae’r teulu yn cysylltu a pherthnasau ar y We gan ddefnyddio offer mae Costaaas wedi’i adeiladu ei hun.

Perthyn a charu’n gilydd drwy hinddrwg a hindda ydi byrdwn y gyfres. Oes mae na anghytuno – ond bydd popeth yn iawn yn y diwedd!!!