Category: Uncategorized

Gofod!

Nol o Sunny Side of the Doc i Drefforest heulog! Tra roeddwn i yn La Rochelle, fe drosglwyddodd Gav, y golygydd, 26 pennod arall o Marcaroni i dâp! Dim ond golygu’r sain rwan yn Cranc ymhen rhyw bythefnos a bydd y cyfan yn barod i ymddangos ar Cyw! Mae Marcaroni wedi hen ennill ei le fel arwr newydd i wylwyr Cyw. Melys moes mwy ddeuda i!!! Does dim rhyfedd gyda’r gwych Mark Evans yn serennu fel ein harwr a Non, Nia, Gwydion a Rhodri yn protreadu’r cymeriadau eraill – heb anghofio wrth gwrs yn anfarwol Anti Poli, creadigaeth ddiweddara Caryl. Ond o ddifri a heb wenieithu, does ryfedd bod y caneuon mor arbennig, gan mai gan Caryl a Christian maen nhw! Gwych iawn. Dyma lun o ran o set Marcaroni yn y gofod stiwdio sydd gynnon ni yma. Mae’n ofod gwych hyblyg iawn…cysylltwch a ni os am wybodaeth!

Mehefin 27, 2011

Uncategorized

Noswaith Dda o La Rochelle!

Dwi’n cael cyfle i fwynhau fy obsesiwn gyda Ffrainc – sydd yn mynd yn ol flynyddoedd ers pan roeddwn i’n blenty trist iawn yn gofyn am eiriadur Ffrangeg y anrheg Nadolig! I egluro – heddiw nes i hedfan i La Rochelle – tref hyfryd rydw i wedi ymweld a hi sawl tro at bwrpasau busnes a phleser. Mae ymweliad yr wythnos hon yn bleserus – ond busnes yw ei bwrpas. Dwi yma ar gyfer Sunny Side of the Doc – gwyl rhaglenni dogfen. Mae gen i gyfarfodydd sydd yn argoeli i fod yn ddiddorol – dwi’n gobeithio cael cefnogaeth i brosiect dogfen newydd a difyr iawn. Yn y cyfamser, dyma flas ar rywfaint o’n gwaith dogfen ni! Cliciwch ar y ddolen – bydd isio amynedd wrth ei lwytho gen i ofn.

Factual Showreel

Mehefin 21, 2011

Uncategorized

Cryno Ddisg Marcaroni ar werth!

Chwech o ganeuon newydd sbon danlli i blant bach bach y byd mawr mawr! Mae Marcaroni bellach ar Cyw bob bore Mercher – ond rhag ofn bo chi ddim wedi’i weld o eto, gwyliwch ar Cyw ar Clic.

Mae Cyfansoddwr Gore’r Byd wedi rhyddhau cd o chwech o’i hoff ganeuon (gyda help Caryl Parry Jones a Christian Phillips!) Mae hon ar werth rwan mewn siopau Cymraeg drwy Gymru. Fel arall mae croeso i chi gysylltu efo ni yma, neu drwy ffonio 01443 844714.

Ymhob rhaglen bydd Marcaroni – gyda chymorth ei gyfeillion yn Nhwr y Cloc – yn cyfansoddi can newydd sbon.

Mai 11, 2011

Uncategorized

Mae’r Byd yn wyrdd

Meddwl falle bydde diddordeb yn y sgrin werdd dan ni newydd ei chodi yn y stiwdio yma yn Nhrefforest. Neson ni’i defnyddio yr wythnos dwytha i saethu’r Tylwyth Teg ar gyfer “Marcaroni” (ar yr awyr Ebrill 27 Cyw).

Y “key” yn gweithio’n wych wrth i Gav Cox olygu.

Ddylwn i ddeud hefyd bod y stiwdio ar gael i’w llogi. Mae’n faint ardderchog tua 2000 tr sgwar. Blacks yr holl ffordd o gwmpas y gofod – sydd yn hyblyg iawn. Rig goleuo. A Sgrin Werdd wrth gwrs rwan!

Gwych ar gyfer recordio fideo/teledu. Ond hefyd – stiwdio ffotograffig penigamp.

Cysylltwch efo Shelley os oes diddordeb  Shelley@dev.ceidiog.com

O.N. gyda llaw nid Shelley sydd yn y llun! Roli Odl (Marcaroni) ydi hwnna!

Ebrill 15, 2011

News, Shows, Uncategorized