Drannoeth y drin!

Dwi wrthi’n fframio’n tystysgrif Enwebiad Gwobrau Rhaglenni y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Horrible Histories gyda’i sgriptio gwych, ei actio penigamp a’i ddull arbennig o gyflwyno hanes i blant aeth a hi. Hefyd yn yr un categori ag Y Diwrnod Mawr, fe enwebwyd y ffefryn meithrin Mr Tumble a’r rhaglen Something Special. Roedd clywed llais ein harwr bach o Bentrefoelas yn deud “Fi di Sion a hwn ‘di diwrnod mawr fi. Dwi’n mynd i werthu John Parry” yng nghanol mor o Saesneg yn brofiad gwefreiddiol!

Mae gwobrau’r RTS yn ddigwyddiad o bwys yn y diwydiant teledu. Dwi’n browd iawn o’r rhaglen yma a’i chyrhaeddiad. Mae bob plentyn (26 yn y gyfres gynta) yn arbennig ac mi fu’n fraint gweithio efo nhw.

Rydyn ni wrthi’n golygu rhaglenni cynta’ Cyfres Dau rwan – ac mae rhain yn wych hefyd.

Mynd o seremoni i seremoni ar hyn o bryd – mi fyddaf yn mynd i’r Wyl Gyfryngau Geltaidd yn Stornoway fis nesa’. Mae’r rhaglen wedi derbyn ei phedwerydd enwebiad yn fanno. Mi fydd yn dipyn o daith – well imi feddwl am ddechre trefnu!

Mawrth 17, 2011

Awards, News

Gadael Ateb